Put this in to fix position overlay in IE
Hide Overlay Close Overlay
** Requesting Rating **

Tag cloud:


Credit Cards
Debts
Leaving Home
First Time Buyers
ISAs

This a basic version of the tag cloud. For an advanced version you will need JavaScript enabled and the Flash 9 plugin (Opens in a new window).

Spotlight on

Tuesday, 23rd December 2008

Bank of England interest-rate change
On the 4th of December 2008, the Bank of England again reduced their interest rate (often referred to as the 'base rate'), to the lowest level since November 1951.

But, what does that mean for customers?

Cymraeg

Mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth ariannol ddiduedd i oedolion ifanc. Mae'n cael ei darparu gan gorff gwarchod ariannol y DU (FSA). Cymraeg.

I gael gwybodaeth am faterion ariannol yn y Gymraeg efallai y bydd y wefan ddilynol o gymorth i chi (Yn agor mewn ffenestr newydd)

http://www.cliconline.co.uk/server.php?show=nav.525&outputLang=Tr1

Nid yw'r FSA yn gyfrifol am y cynnwys sydd ar y wefan hon.

Tudalen Gymraeg

Pwy ydym ni
Corff gwarchod ariannol y DU ydym ni, a sefydlwyd gan y llywodraeth i helpu i reoleiddio gwasanaethau ariannol yn y DU ac i warchod eich hawliau. Mae hyn yn golygu ein bod yn gosod y safonau y mae'r rhan fwyaf o fusnesau gwasanaethau ariannol yn gorfod cwrdd â hwy, a byddwn yn gweithredu os nad ydynt. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth glir a diduedd, ar y wefan hon ac mewn cyhoeddiadau, ynglyn â chynnyrch a gwasanaethau ariannol, i helpu i wneud materion ariannol yn gliriach ichi. Am wybodaeth bellach ynglyn â ni, gwelwch dolen i'r wefan gorfforaethol.

Dim gwerthu
Am ein bod yn gorff gwarchod, nid ydym yn gwerthu dim byd, ac felly mae ein gwybodaeth i gyd yn ddiduedd. Rydym yn darparu gwybodaeth ein gwefannau hon, llyfrynnau a Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr. Ond - fel y corff rheoleiddio - ni allwn ymchwilio cwynion unigol, argymell cwmni penodol, neu roi cyngor ichi ar ba gynnyrch i'w ddewis Sut rydym yn eich helpu

Rydym yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o fathau o gwmnïau gwasanaethau ariannol, megis banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, cwmnïau yswiriant, cynghorwyr ariannol, broceriaid stoc, gwerthwyr morgeisi ac yswiriant. Caiff cwmnïau rheoledig a'u hasiantau eu gosod ar ein Cofrestr, ac mae'n rhaid iddynt gwrdd â safonau penodol. Sicrhewch bob amser fod y cwmni rydych yn ei ddefnyddio ar ein Cofrestr cyn trosglwyddo eich arian. Os nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gennym ac aiff pethau o chwith, ni fyddwch yn gallu manteisio o'n gweithdrefnau cwyno ac iawndal. I ddarganfod a yw cwmni ar ein Cofrestr, gwelwch Gwirio ein Cofrestr neu ffoniwch ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0845 606 1234 (gall cyfraddau galwadau amrywio).

Mae gennym sawl ffordd o ddarparu gwybodaeth ddiduedd:

  • mae'r wefan hon yn cynnig gwybodaeth am gynnyrch a gwasanaethau ariannol, efallai y bydd eu hangen arnoch yn ystod cyfnodau gwahanol eich bywyd;
  • Drwy eich cyfeirio at adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi
  • mae ein tablau ar-lein yn cymharu cynnyrch ariannol - er enghraifft, ynglyn â'u taliadau neu eu hyblygrwydd;
  • mae ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr, ar 0845 606 1234, yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyffredinol yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg; ac
  • mae ein llyfrynnau am ddim, hawdd eu deall, yn ymdrin ag amrywiaeth helaeth o bynciau, yn gyffredinol ac yn benodol i wahanol gynhyrchion, ac mae'r canlynol ar gaelyn y Gymraeg:
    • Cyfrifon banc sylfaenol - atebion i'ch cwestiynau
    • Arweiniad yr FSA i gyngor ariannol
    • Arweiniad yr FSA i ddwyn cwyn am wasanaethau ariannol

Cewch archebu'r rhain yma : [ffurflen archebu cyhoeddiadau]